Sorry, we're no longer updating this part of the website

This page has been left here for reference. Find out more.
Sorry, we're no longer updating this section of the website, but we've left it here for reference.
You might be interested in the following related sections:
» Crickhowell community news
» CRiC Centre services

CRiC News

DATGANIAD I'R WASG

Wednesday 6th September 2006
DATGANIAD I'R WASG  
 

Ym mis Medi, bydd y weledigaeth o gael canolfan wybodaeth gymunedol yng Nghrughywel yn cael ei gwireddu o'r diwedd, diolch i grwp o wirfoddolwyr ymroddedig.

 Bydd Canolfan Gwybodaeth ac Adnoddau Crucywel yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Mawrth 12 Medi a bydd yn benllanw bron pum mlynedd o waith caled i sicrhau cyfleuster pwrpasol ar gyfer y gymuned leol. Dechreuwyd ystyried y prosiect adeiladu ym mis Hydref 2001. Ers hynny, mae wedi sicrhau cyllid gan Raglen Drosiannol Amcan 2 yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Sir Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Lywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru. 

 Mae'r agoriad wedi'i groesawu gan Tamsin Dunwoody, y Dirwprwy Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

 "Rwy'n siwr y bydd y prosiect ardderchog hwn yn gwneud cyfraniad mawr i fywyd y gymuned leol. Hoffwn longyfarch bawb sydd wedi helpu i sicrhau bod y cyfleuster gwerthfawr hwn wedi'i gwblhau," meddai.

 "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn hynod falch fod y defnydd medrus o arian Ewrop yn gwneud cyfraniad mor bositif i'r economi leol ac i weithgareddau cymdeithasol."

 Y ganolfan newydd, sydd wedi'i lleoli'n gyfleus ar gefn ffordd yr A40 sy'n mynd trwy ganol Crucywel, fydd yr adeilad cymunedol mawr cyntaf i'w godi yng nghanol y dref am oddeutu canrif. Yn ystod y broses adeiladu, bu'r ganolfan yn destun llawer o sylw a diddordeb gan bobl leol ac ymwelwyr. Ar 18 Medi, bydd ar agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, i gael gwybodaeth a chyngor twristiaeth, gwasanaethau cymorth cymunedol a gwasanaethau ysgrifenyddol. Yn y ganolfan hefyd, ceir siop goffi fach, cyfleusterau cynadledda a system o weithio wrth sawl gweithfan, ynghyd ag oriel celf a chrefft. Bydd dau sefydliad cymunedol lleol, Swyddfa Gwirfoddolwyr Crucywel a Grwp Archifau Crucywel a'r Cylch, yn rhannu'r adeilad. Yn ogystal, mae gan y dref doiledau newydd bellach hefyd.

 Mae Canolfan Gwybodaeth ac Adnoddau Crucywel yn sefydliad elusennol a chwmni cyfyngedig trwy warant gyda bwrdd reoli o gyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr - sydd oll yn wirfoddolwyr. Mae ganddi bedwar aelod o staff rhan-amser cyflogedig a chriw o ryw 60 o wirfoddolwyr sy'n helpu i redeg y gwasanaethau niferus fydd bellach yn cael eu cynnig. Tua deuddeng mlynedd yn ôl, cychwynnodd y sefydliad mewn ystafell fechan yn yr ysgol uwchradd leol. Fel rhan o "Telecentres Powys", nod y gwirfoddolwyr cyntaf oedd rhoi cyfle i'r cyhoedd ddefnyddio cyfrifiaduron a chael hyfforddiant.

 ae'r nod cychwynnol yn parhau i fod yn rhan o ethos y Ganolfan, ond yn 2001, yn sgil yr effeithiau trychinebus a gafodd epidemig Clwy'r Traed a'r Genau ar y diwydiant ffermio a'r diwydiant ymwelwyr lleol, ehangwyd y nodau i gynnwys awydd i hybu a helpu'r economi leol i fod yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae'r gweithgareddau canlynol yn rhan o 'bortffolio'r sefydliad: cefnogi darparwyr twristiaeth a gwaith arallgyfeirio ffermydd, cyngor gyrfaoedd, mentora busnesau bach ifanc, arferion da amgylcheddol a rhedeg gwefan gymunedol.   Mae aelodau'r tîm rheoli hefyd o'r farn y gallent rhannu eu profiadau o ran dod â'r prosiect i'w derfyn gydag eraill sy'n ystyried dechrau cynlluniau tebyg. 

 Mae'r broses adeiladu bellach wedi dod i ben. Nawr rhaid dechrau ar y gwaith o sicrhau bod yr holl wasanaethau a gynigir yn y ganolfan o'r safon uchaf a'u bod yn gynaliadwy. Mae staff a gwirfoddolwyr y ganolfan yn sylweddoli y bydd yr adeilad nodedig hwn yn ganolbwynt gweithgarwch a chyngor i'r bobl leol. Maent felly'n awyddus iddo fod yn lle a fydd yn esiampl i gymunedau eraill yng Nghymru.

 I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â : Jan Morgan, Rheolwr Prosiect ar 01873 811970 or yn admin@criccentre.plus.com

Released at 00:00 on 06/09/2006 | Permalink